Veredus

  • Full-time
  • Swansea
  • £Competitive remuneration package, with USS pension - £ per annum

Website Veredus

Education & Training

SWANSEA UNIVERSITY

Chief Financial Officer

Location: Swansea

Salary: Competitive remuneration package, with USS pension benefits

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration, discovery and innovation. With two stunning waterfront campuses, world-class facilities and a diverse, multicultural community, we attract students and staff from across the globe. Our reputation continues to grow: we are ranked the top university in Wales, 25th in the UK, and among the global leaders in multiple subject areas, while our student experience has been recognised with Top 10 national placings in teaching quality, career prospects and student life. Building on more than a century of impact, Swansea combines academic excellence with a friendly, collaborative culture that defines the “Swansea experience”, and we are ambitious to strengthen our position as a truly global university tackling the biggest issues of our time.

We are now seeking to appoint an outstanding Chief Financial Officer to play a crucial role in shaping the next chapter of our development during a period of significant change across the sector. Reporting directly to the Vice-Chancellor and serving as a key member of the Senior Leadership Team, you will provide strategic financial leadership, and expert advice and guidance across all aspects of the University’s operations, while contributing extensively to investment and capital decisions. You will lead high-performing, multi-disciplinary teams spanning financial control and performance, planning and analysis, commercial development and procurement. In doing so, you will ensure robust financial governance while fostering a culture of transparency, collaboration and innovation that enables Swansea to deliver its strategic ambitions. Central to your role will be optimising the University’s financial resources and maximising returns on investment, enabling Swansea to strengthen its resilience and realise its long-term goals.

This is a rewarding and challenging role, and we are seeking an exceptional leader who combines technical excellence with strategic vision. You will bring proven experience of financial leadership within complex, multi-stakeholder environments, ideally with exposure to research-intensive or innovation-driven organisations. Confident in shaping major investment decisions and resilient in the face of sector-wide challenges, you will be a collaborative leader who builds trust and transparency across the University community. With the highest levels of integrity, professionalism and emotional intelligence, you will excel at influencing diverse stakeholders, navigating complexity with assurance and leading transformational change. While experience in higher education is advantageous, we are equally open to candidates from other sectors who can demonstrate the right blend of strategic, commercial and financial expertise.

This is a pivotal moment for Swansea. The new CFO will play a defining role in strengthening our financial resilience while enabling the University to achieve its ambitious goals for academic excellence, research innovation and societal impact. If you have the ambition, insight and expertise to shape the next chapter of Swansea’s success, we would be delighted to hear from you.

For further information on this opportunity and to apply, please contact our advising consultants and download the Candidate Information Pack under Supporting Documents below:

· James Griffin on James.Griffin2@veredus.co.uk

· Veronika Dergal on Veronika.Dergal@veredus.co.uk

SUPPORTING DOCUMENTATION

CANDIDATE INORMATION PACK – ENGLISH

EQUALITY & DIVERSITY MONITORING FORM – ENGLISH

CANDIDATE SUPPORTING INFORMATION FORM – ENGLISH

CANDIDATE INFORMATION PACK – WELSH

EQUALITY & DIVERSITY MONITORING FORM – WELSH

CANDIDATE SUPPORTING INFROMATION FORM – WELSH

 

Closing date: 23:59 on Sunday, 12th October 2025.

PLEASE ENSURE ALL REQUIRED DOCUMENTS (CV / SUPPORTING STATEMENT / FORMS) ARE SUBMITTED WITH YOUR APPLICATION IN ORDER TO BE CONSIDERED FOR THIS ROLE

 

Prifysgol Abertawe

Prif Swyddog Ariannol

Lleoliad:Abertawe

Cyflog:Pecyn cyflog cystadleuol, gyda buddion pensiwn USS

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio, darganfod ac arloesi. Gyda dau gampws godidog ar lannau Abertawe, cyfleusterau o’r radd flaenaf a chymuned amrywiol ac amlddiwylliannol, rydym yn denu myfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd. Mae ein henw da yn parhau i dyfu: Rydym wedi cyrraedd y brig fel y Brifysgol orau yng Nghymru, y 25ain yn y Deyrnas Unedig, ac ymhlith yr arweinwyr byd-eang mewn sawl maes pwnc, tra bod ein profiad myfyrwyr wedi cael ei gydnabod gyda safleoedd cenedlaethol yn y 10 uchaf o ran ansawdd addysgu, rhagolygon gyrfa a bywyd myfyrwyr. Gan adeiladu ar fwy na chanrif o effaith, mae Abertawe’n cyfuno rhagoriaeth academaidd â diwylliant cyfeillgar a chydweithredol sy’n diffinio “profiad Abertawe”, ac rydym yn uchelgeisiol i gryfhau ein safle fel prifysgol wirioneddol fyd-eang sy’n mynd i’r afael â materion mwyaf ein hoes.

Rydym bellach am benodi Prif Swyddog Ariannol rhagorol i chwarae rhan hanfodol wrth lunio’r bennod nesaf yn ein datblygiad yn ystod cyfnod o newid sylweddol ar draws y sector. Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Is-ganghellor a gwasanaethu fel aelod allweddol o’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, byddwch yn rhoi arweinyddiaeth ariannol strategol, a chyngor ac arweiniad arbenigol ar draws pob agwedd ar weithrediadau’r Brifysgol, gan gyfrannu’n helaeth at benderfyniadau buddsoddi a chyfalaf. Byddwch yn arwain timau amlddisgyblaethol sy’n perfformio uchel a fydd yn cynnwys rheolaeth a pherfformiad ariannol, cynllunio a dadansoddi, datblygu masnachol a chaffael. Wrth wneud hynny, byddwch yn sicrhau llywodraethu ariannol cadarn wrth feithrin diwylliant o dryloywder, cydweithio ac arloesedd sy’n galluogi Abertawe i gyflawni ei huchelgeisiau strategol. Yn ganolog i’ch rôl fydd optimeiddio adnoddau ariannol y Brifysgol a chynyddu enillion ar fuddsoddiad, gan alluogi Abertawe i gryfhau ei gwydnwch a gwireddu ei nodau hirdymor.

Mae hon yn rôl werth chweil a heriol, ac rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol sy’n cyfuno rhagoriaeth dechnegol â gweledigaeth strategol. Byddwch yn dod â phrofiad o arweinyddiaeth ariannol mewn amgylcheddau cymhleth, aml-randdeiliaid, yn ddelfrydol gyda phrofiad o weithio mewn sefydliadau sy’n ddwys o ran ymchwil neu sy’n cael eu harwain gan arloesedd. Byddwch yn hyderus wrth wneud penderfyniadau buddsoddi mawr ac yn wydn yn wyneb heriau’r sector. Byddwch yn arweinydd cydweithredol sy’n meithrin ymddiriedaeth a thryloywder ar draws cymuned y Brifysgol. Gyda’r lefelau uchaf o onestrwydd, proffesiynoldeb a deallusrwydd emosiynol, byddwch yn rhagori wrth ddylanwadu ar randdeiliaid amrywiol, llywio cymhlethdod gyda sicrwydd ac yn arwain newid trawsnewidiol. Er bod profiad mewn addysg uwch yn fanteisiol, rydym yr un mor agored i ymgeiswyr o sectorau eraill a all ddangos y cyfuniad cywir o arbenigedd strategol, masnachol ac ariannol.

Mae hwn yn foment hollbwysig i Abertawe. Bydd y Prif Swyddog Ariannol newydd yn chwarae rhan ddiffiniol wrth gryfhau ein gwydnwch ariannol wrth alluogi’r Brifysgol i gyflawni ei hamcanion uchelgeisiol ar gyfer rhagoriaeth academaidd, arloesedd ymchwil ac effaith gymdeithasol. Os oes gennych chi’r uchelgais, y ddealltwriaeth a’r arbenigedd i lunio pennod nesaf llwyddiant Abertawe, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.

Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ac i gyflwyno cais, ewch i www.veredus.co.uk gan ddyfynnu cyfeirnod 864. Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr cynghori:

· James Griffin yn James.Griffin2@veredus.co.uk

· Veronika Dergal yn Veronika.Dergal@veredus.co.uk