Website Veredus
Education & Training
Swansea University
Registrar and Chief Operating Officer
Location: Swansea, Wales
Salary: Competitive executive remuneration package
Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery, offering a compelling balance of excellent teaching, world-leading research and an enviable quality of life across its two beachfront campuses. Having celebrated its centenary in 2020, the University is proud of the role it has played in the transformation of Swansea as a city of distinction since 1920. Today, Swansea educates more than 22,000 students from over 100 countries and supports a large and diverse academic and professional services community. Ranked within the top 300 universities globally and top in Wales in the Guardian University Guide 2026, Swansea continues to strengthen its international reputation while investing in ambitious programmes of research, innovation, campus development and strategic partnerships.
We are now seeking to appoint an outstanding Registrar and Chief Operating Officer (COO) to play a central role in shaping the next phase of Swansea University’s development. This is a pivotal executive leadership role with broad institutional scope. Reporting to the Vice-Chancellor and working as a key member of the Senior Leadership Team, you will have significant influence across strategy, governance, operational performance and organisational effectiveness.
You will provide strategic leadership for major professional services functions including Education Services, Marketing, Recruitment and International, People Services, Strategic Change, Research and Knowledge Exchange, Student Life and Faculty Operations. You will lead the continued development of effective, resilient and high-performing services that support the University’s strategic ambitions, student experience and long-term sustainability, embedding a culture of continuous improvement, collaboration and service excellence across the institution.
The role will also hold significant responsibility for governance, regulatory compliance and institutional accountability, including engagement with Council and its committees, while ensuring the University is well-positioned to respond effectively to future opportunities, challenges and sector change. A key aspect of the role will be embedding a culture of collaboration, service excellence and continuous improvement across the institution, enhancing organisational effectiveness, supporting informed decision-making and ensuring the University remains agile, resilient and fit for the future.
This is a pivotal role, and you will bring substantial senior-level leadership experience gained within higher education, the wider public sector or a comparably sophisticated environment. You will have a strong track record of leading organisational improvement, overseeing diverse operational portfolios and building high-performing teams and inclusive cultures. You will bring the credibility, judgement and strategic capability to operate effectively across a broad stakeholder environment, alongside strong commercial awareness. You will also be a dynamic and adaptable leader, comfortable operating at pace within a complex and fast-moving environment.
This is an exceptional opportunity to join an ambitious, globally connected university at an exciting stage in its development and to play a defining role in shaping Swansea University’s future direction, operational effectiveness and institutional impact.
For a confidential discussion, please contact our advising consultants at Veredus: Reece D’Alanno on reece.dalanno@veredus.co.uk or Nataliya Starik-Bludova on nataliya.starik-bludova@veredus.co.uk.
To find out more about this opportunity, including details of how apply, please see Supporting Documentation below:
SUPPORTING DOCUMENTATION
CANDIDATE INFORMATION PACK – ENGLISH
EQUALITY & DIVERSITY MONITORING FORM – ENGLISH
CANDIDATE SUPPORTING INFORMATION FORM – ENGLISH
CANDIDATE INFORMATION PACK – WELSH
EQUALITY & DIVERSITY MONITORING FORM – WELSH
CANDIDATE SUPPORTING INFROMATION FORM – WELSH
Closing date for applications is 5pm on Friday, 23rd October 2026.
PLEASE ENSURE ALL REQUIRED DOCUMENTS (CV / SUPPORTING STATEMENT / FORMS) ARE SUBMITTED WITH YOUR APPLICATION IN ORDER TO BE CONSIDERED FOR THIS ROLE
Prifysgol Abertawe
Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Lleoliad: Abertawe, Cymru
Cyflog: Pecyn Cydnabyddiaeth Ariannol Cystadleuol ar gyfer rôl Uwch-arweinyddiaeth
Mae Prifysgol Abertawe’n sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod, yn cynnig cydbwysedd cymhellol o addysgu rhagorol, ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac ansawdd bywyd rhagorol ar ei dau gampws glan môr. Ar ôl dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020, mae’r Brifysgol yn falch o’r rôl y mae wedi’i chwarae wrth drawsnewid Abertawe’n ddinas o ragoriaeth ers 1920. Heddiw, mae Abertawe’n addysgu mwy na 22,000 o fyfyrwyr o dros 100 o wledydd ac yn cefnogi cymuned academaidd a gwasanaethau proffesiynol fawr ac amrywiol. Ymysg y 300 o brifysgolion gorau yn y byd ac ar y brig yng Nghymru yn The Guardian University Guide 2026, mae Abertawe’n parhau i gryfhau ei henw da rhyngwladol wrth fuddsoddi mewn rhaglenni uchelgeisiol o ymchwil, arloesi, datblygiad campws a phartneriaethau strategol.
Rydym bellach am benodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu rhagorol i chwarae rôl ganolog wrth lunio cam nesaf datblygiad Prifysgol Abertawe. Dyma rôl arweinyddiaeth weithredol allweddol a chanddi gwmpas sefydliadol eang. Yn atebol i’r Is-ganghellor ac yn gweithio fel aelod allweddol o’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, bydd gennych ddylanwad sylweddol ar strategaeth, llywodraethiant, perfformiad gweithredol ac effeithiolrwydd sefydliadol.
Byddwch yn rhoi arweinyddiaeth strategol i swyddogaethau gwasanaethau proffesiynol o bwys gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg, Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol, y Gwasanaethau Pobl, Newid Strategol, Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, Bywyd Myfyrwyr a Gweithrediadau Cyfadrannau. Byddwch yn arwain datblygiad parhaus gwasanaethau effeithiol, gwydn sy’n perfformio’n uchel a fydd yn cefnogi uchelgeisiau strategol y Brifysgol, profiad myfyrwyr a chynaliadwyedd hirdymor, gan wreiddio diwylliant o welliant parhaus, cydweithio a rhagoriaeth gwasanaeth ar draws y sefydliad.
Bydd gennych hefyd gyfrifoldeb helaeth am lywodraethiant, cydymffurfiaeth reoleiddiol ac atebolrwydd sefydliadol, gan gynnwys ymgysylltu â’r Cyngor a’i bwyllgorau, wrth sicrhau bod y Brifysgol mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i gyfleoedd, heriau a newid yn y sector yn y dyfodol. Agwedd allweddol ar y rôl fydd gwreiddio diwylliant o gydweithio, rhagoriaeth gwasanaeth a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad, gan wella effeithiolrwydd sefydliadol, cefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus a sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i fod yn ystwyth, yn wydn ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae hon yn rôl allweddol, a bydd gennych brofiad sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel uwch a enillwyd mewn addysg uwch, yn y sector cyhoeddus ehangach neu amgylchedd soffistigedig tebyg. Bydd gennych brofiad helaeth o arwain gwelliant sefydliadol, goruchwylio portffolios gweithredol amrywiol a chreu timau perfformiad uchel a diwylliannau cynhwysol. Bydd gennych y credadwyedd, barn a galluedd strategol i weithio’n effeithiol ar draws amgylchedd eang o randdeiliaid, ynghyd ag ymwybyddiaeth fasnachol gref. Byddwch hefyd yn arweinydd dynamig sy’n gallu addasu, yn hapus i weithio ar gyflymder mewn amgylchedd cymhleth sy’n symud yn gyflym.
Dyma gyfle gwych i ymuno â Phrifysgol uchelgeisiol sydd wedi’i chysylltu’n fyd-eang ar gam cyffrous o’i datblygiad a chwarae rôl ddiffiniol wrth lywio cyfeiriad, effeithiolrwydd gweithredol ac effaith sefydliadol Prifysgol Abertawe yn y dyfodol.
I gael mwy o wybodaeth am y cyfle hwn ac i gyflwyno cais, ewch i: https://www.veredus.co.uk/opportunities/ gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1219.
Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr cynghori yn Veredus: Reece D’Alanno yn reece.dalanno@veredus.co.uk neu Nataliya Starik-Bludova yn nataliya.starik-bludova@veredus.co.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 5pm nos Wener, 23 Hydref2026.